Cyngor Cymuned Henfynyw

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Henfynyw. Mae Cyngor Cymuned Henfynyw yn cynrychioli ardal sy’n cynnwys rhan o arfordir Ceredigion, a phentrefi Llwyncelyn, Neuaddlwyd, Derwen Gam a Ffos-y-ffin.

Yn 2011 roedd ardal Cyngor Cymuned Henfynyw yn cynnwys 1,045 o bobl dros 3 oed, gyda 557 (54.3%) o’r rhain yn medru’r Gymraeg. Cafodd 59.3% o drigolion yr ardal eu geni yng Nghymru. Mae 477 eiddo o fewn ffiniau’r plwyf, ac ar y cyfrif diweddaraf roedd yr ardal yn cynnwys 792 o etholwyr.

Mae’r Cyngor Cymuned yn cyfarfod ar ail nos Fawrth y mis am 7.30pm, fel arfer yn Neuadd Llwyncelyn. Mae ein cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso i unrhyw un fynychu. Cynhelir ein cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg fel rheol. Am fwy o wybodaeth am ein cyfarfodydd cysylltwch â’r clerc drwy’r manylion ar waelod y dudalen hon.

Hysbysiadau

Hysbysiad Cyhoeddus – 1 sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd

Hysbysiad am gwblhau archwiliad ac am yr hawl i arolygu’r cofnod blynyddol am y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2021

Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer hawliau etholwyr y flwyddyn sy’n diweddu 31 Mawrth 2021